Cartref
Llety
Landlordiaid
Cyngor a Chymorth
Gwybodaeth
Newyddion
Cysylltwch â ni
Adborth
Dewisiadau Tai Pen-y-bont ar Ogwr 

Croeso i Dewisiadau Tai Pen-y-bont ar Ogwr

Nod y wefan hon yw helpu’r rheiny sy’n chwilio am gartref i wneud dewisiadau ynghylch yr opsiynau tai mwyaf addas sydd ar gael iddynt.

Mae’n cynnig gwybodaeth am dai rhent cymdeithasol (cymdeithasau tai), tai rhent preifat, tai i bobl hŷn a thai fforddiadwy ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r Gyfrifiannell Amser Aros yn darparu gwybodaeth i helpu pobl sydd wedi ymgeisio am, neu sy’n meddwl ymgeisio am dai trwy gofrestr tai’r Cyngor, er mwyn penderfynu a yw tai cymdeithasol yn iawn iddynt hwy. Mae hyn yn cynnwys manylion:

  • Ble mae tai gan gymdeithasau tai
  • Nifer y gosodiadau mewn amryw ardaloedd yn y fwrdeistref
  • Nifer yr ymgeiswyr sy’n disgwyl i gael eu cartrefu
  • Amcangyfrif o’r amseroedd aros (os ydych wedi ymgeisio ac yn gwybod cyfanswm y pwyntiau sydd gennych)

Mae’r wefan hefyd yn cynnig y cyfle i landlordiaid hysbysebu’r tai rhent preifat sydd ar gael ganddynt ac yn darparu gwybodaeth am y safonau llety gofynnol, dewisiadau achredu a materion eraill.

Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei datblygu o hyd felly dewch yn ôl i wirio’r tudalennau eto am wybodaeth newydd a diweddariadau.

Newyddion Diweddaraf..