Cartref
Llety
Landlordiaid
Cyngor a Chymorth
Gwybodaeth
Newyddion
Cysylltwch â ni
Adborth
Amodau a Thelerau 

Ymwadiad

Mae Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn ceisio cynnal cywirdeb a dibynadwyedd y wefan hon, fodd bynnag nid yw’n gwneud unrhyw sylwadau ynghylch cywirdeb, dibynadwyedd, cyflawnrwydd nac addasrwydd y wybodaeth, cynnyrch, gwasanaethau a graffeg cysylltiedig sydd wedi'u cynnwys yn y wefan hon at unrhyw ddiben. Ni fydd Dewisiadau Tai Pen-y-bont a phartïon eraill sydd wedi bod yn gysylltiedig â chreu a darparu’r wefan hon yn atebol am unrhyw ddifrod, colled neu anghyfleusterau uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol a achoswyd gan ddibyniaeth ar gynnwys y wefan hon neu sy’n codi o ddefnyddio’r wefan hon.

Telerau ac amodau defnyddio

Darperir mynediad i a defnydd o’r wefan hon gan Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn amodol ar y telerau ac amodau canlynol:

Mae defnyddio’r wefan hon yn golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn sy’n weithredol o’r dyddiad y gwnaethoch ddefnyddio’r wefan gyntaf. Mae Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg drwy bostio unrhyw newidiadau ar-lein. Mae parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu postio yn cyfrif fel derbyn y telerau ac amodau diwygiedig.

Mae’r wefan hon i'w defnyddio at eich dibenion personol ac anfasnachol eich hun. Ni cheir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, llwytho, postio, darlledu na throsglwyddo'r deunydd mewn unrhyw ffordd ar wahân i'ch defnydd personol ac anfasnachol eich hun yn eich cartref. Mae angen caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Dewisiadau Tai Pen-y-bont ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.

Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r wefan at ddibenion cyfreithiol yn unig ac mewn modd nad yw’n amharu ar hawliau, neu’n atal neu’n cyfyngu ar ddefnydd a mwynhad o’r wefan gan unrhyw drydydd parti, neu’n achosi niwsans, anghyfleustra neu bryder diangen i unrhyw drydydd parti. Mae cyfyngiad neu ataliaeth o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, yn ddifrïol neu’n sarhaus neu a allai achosi aflonyddwch neu drallod, anghyfleustra, niwsans neu fygythiad i unrhyw berson a throsglwyddo cynnwys anweddus, bygythiol neu ymosodol neu amharu ar lif deialog arferol y wefan hon.

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Nid yw Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn ac nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd a allai godi o ran defnyddio’r gwefannau hynny.

Mae Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth a’r deunydd ar y wefan hon yn gywir ond nid yw’n derbyn atebolrwydd dros wallau neu hepgorion, ac nid yw Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn gwarantu y bydd defnydd o’r wefan yn ddi-dor. Mae Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn darparu’r deunydd a gyhoeddir ar y wefan ar y sail ei fod yn ymwrthod â phob gwarant o ran deunydd o’r fath, p’un a yw’n cael ei fynegi neu ei awgrymu. Nid yw Dewisiadau Tai Pen-y-bont a darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd dros unrhyw golled busnes, refeniw neu elw uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ganlyniadol neu ddifrod arbennig a allai godi o gyhoeddi deunydd ar y wefan hon neu o ddefnyddio’r wefan hon.

Rydych yn cydnabod bod pob hawl eiddo deallusol gan gynnwys hawliau hawlfraint a chronfa ddata yng ngwefan Dewisiadau Tai Pen-y-bont a’i gynnwys yn perthyn i neu wedi’i drwyddedu i Dewisiadau Tai Pen-y-bont neu fel arall yn cael ei ddefnyddio gan Dewisiadau Tai Pen-y-bont fel y caniateir gan y gyfraith gymwys.

Mae gan Dewisiadau Tai Pen-y-bont hawl i olygu, gwrthod postio neu gael gwared ar unrhyw ddeunydd a gyhoeddir neu a bostir ar y wefan hon. Nid yw Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn gyfrifol am nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd dros unrhyw ddeunydd a bostir ar y wefan heblaw am ddeunydd gan Dewisiadau Tai Pen-y-bont . Mae unrhyw farn, cyngor, datganiadau, cynigion neu unrhyw wybodaeth arall a fynegwyd neu a wnaed ar gael gan drydydd partïon ar wefan Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn perthyn i’r trydydd partïon dan sylw. Nid yw Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn ardystio nac yn gyfrifol am gywirdeb na dibynadwyedd unrhyw ddeunydd o’r fath gan drydydd parti. .

Caiff y telerau ac amodau hyn eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o’r telerau ac amodau hyn yn gyfan gwbl amodol ar awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr.

Os byddwch yn canfod unrhyw beth ar y wefan hon sy’n rhoi achos pryder i chi yna rhowch wybod.

Os ydych yn anfodlon ag unrhyw ran o’r wefan hon neu gydag unrhyw delerau ac amodau defnyddio, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan ar unwaith.

Os pennir bod unrhyw rai o’r telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu na ellir eu gorfodi, yna i’r graddau y mae’r telerau neu’r amodau hynny yn anghyfreithlon, yn annilys neu na ellir eu gorfodi, cânt yn cael eu torri a’u dileu o’r cymal hwn a bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn goroesi, yn aros mewn grym ac yn parhau i fod yn rhwymol ac yn orfodadwy.