Cartref
Llety
Landlordiaid
Cyngor a Chymorth
Gwybodaeth
Newyddion
Cysylltwch â ni
Adborth
Polisi Preifatrwydd 

Cyffredinol

Mae Dewisiadau Tai Pen-y-bont wedi creu’r datganiad preifatrwydd hwn er mwyn dangos ein hymrwymiad cadarn i breifatrwydd. Mae’r canlynol yn datgelu’r arferion casglu a dosbarthu gwybodaeth ar gyfer y wefan hon. Nid yw’r datganiad hwn yn cwmpasu dolenni o fewn y wefan hon i wefannau eraill.

Y wybodaeth a gasglwn

Nid yw Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy’n chwilio drwy’r wefan hon, heblaw am pan fyddwch yn dewis yn wirfoddol i roi eich manylion personol drwy e-bost neu ffurflen ar-lein i ymholi neu wneud cais am unrhyw un o’n gwasanaethau.

Beth rydym yn ei wneud â gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch yn dewis cwblhau unrhyw un o’n ffurflenni ar-lein bydd y wybodaeth bersonol a rowch i ni yn cael ei defnyddio, gan Dewisiadau Tai Pen-y-bont neu ddarparwr gwasanaeth trydydd parti sydd wedi’i gontractio i ni, i ddarparu’r gwasanaeth(au) rydych yn gofyn amdano. Bydd Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn ceisio diogelu eich gwybodaeth a bydd unrhyw ddatgeliadau o’r wybodaeth honno yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Bydd angen i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti gydymffurfio â’r un safonau.

Mae Dewisiadau Tai Pen-y-bont yn ymrwymedig i ddilyn Deddf Diogelu Data 1998, yn ogystal â hawliau pobl o ran cyfrinachedd a pharch i breifatrwydd. Byddwn ni’n trin eich gwybodaeth breifat â pharch. Fe’i cedwir yn ddiogel a dim ond y staff sydd â hawl i’w gweld, sydd â mynediad ati. Gwnawn ein gorau i gadw’r wybodaeth amdanoch chi yn gywir ac yn ddiweddar. Pan na fydd angen i ni gadw’r wybodaeth amdanoch mwyach, byddwn yn cael gwared arni mewn modd diogel.

Gwybodaeth i wella ein gwefan

Mae Dewisiadau Tai Pen-y-bont ond yn casglu a storio’r wybodaeth ganlynol a gaiff ei chydnabod yn awtomatig: y dyddiad a’r amser, y Darparwr Rhyngrwyd cychwynnol, y math o borwr a’r system weithredu a ddefnyddir, URL y dudalen gyfeirio, y gwrthrych y gofynnir amdano, a statws cwblhau’r cais. Bydd ymwelwyr â’n gwefan yn ddienw gan nad oes unrhyw ran o’r data a gesglir yn gysylltiedig ag unrhyw wybodaeth bersonol. Mae’r wybodaeth ond yn caniatáu i ni nodi problemau â’n gweinyddwr, ac asesu poblogrwydd y tudalennau ar y wefan, er mwyn i ni allu gwella ein gwefan yn barhaus.

Hysbysu ynghylch newidiadau

Wrth i Dewisiadau Tai Pen-y-bont greu gwasanaethau newydd, gallai hyn arwain at angen diwygio’r datganiad preifatrwydd hwn. Os bydd ein polisi preifatrwydd yn newid unrhyw adeg yn y dyfodol, caiff ei bostio ar y dudalen hon.