Cartref
Llety
Landlordiaid
Cyngor a Chymorth
Gwybodaeth
Newyddion
Cysylltwch â ni
Adborth
Gwybodaeth i Landlordiaid 

Sut allaf ddod o hyd i denant newydd?

Efallai y byddwch yn dymuno hysbysebu’r eiddo sydd ar gael gennych ar y wefan hon. I wneud hyn bydd angen i chi gwblhau’r Ffurflen Gofrestru i Landlordiaid.

Bydd angen i’ch cais gael ei gymeradwyo ac fe allai hynny olygu ein bod ni’n cysylltu â chi i gadarnhau eich manylion. Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob maes os gwelwch yn dda. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen ar wahân ar gyfer pob eiddo yr ydych yn dymuno’i hysbysebu.

Mae hefyd yn hanfodol eich bod chi’n cysylltu â ni os nad yw’r eiddo ar gael mwyach, er mwyn i ni allu ei dynnu oddi ar y wefan. Bydd pob eiddo’n cael ei dynnu’n awtomatig oddi ar y wefan 6 wythnos ar ôl y dyddiad y mae’r eiddo ar gael i’w osod. Bydd angen i chi ailhysbysebu eich eiddo wedyn. 

Sut allaf sicrhau fy mod yn aros gyfuwch â newidiadau mewn rheoliadau a deddfwriaeth?

Y ffordd orau o aros gyfuwch â’r rhain yw ymuno â chymdeithas landlordiaid a fydd yn eich hysbysu’n gyson ynghylch unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth a rheoliadau y mae angen i chi wybod amdanynt. Cysylltwch â Chymdeithas Genedlaethol Landlordiaid, neu Urdd y Landlordiaid Preswyl neu’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl i gael mwy o wybodaeth.

Mae’r Cyngor hefyd yn gorfodi safonau tai ac arferion rheoli mewn tai rhent a dylai landlordiaid gysylltu â’r Cyngor os byddant yn dymuno dod i wybod am ein gofynion o ran meintiau ystafelloedd, rhagofalon tân, amwynderau ac ati. Ewch at Wefan Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i gael mwy o wybodaeth.

Mae cynghorau’n talu Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol i bobl ar incwm isel i’w helpu gyda’u rhent. Mae disgwyl i landlordiaid preifat gadw cofnodion priodol o’r rhent sy’n ddyledus a’r taliadau a wnaed gan denantiaid. Fel landlord, mae’n rhaid i chi roi cadarnhad i’ch tenant(iaid) o’r rhent fel eu bod yn gallu hawlio Budd-dal (os oes angen iddynt wneud). Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar y dudalen Gwybodaeth i Landlordiaid ar wefan Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. 

Sut allaf roi gwybod i denantiaid fy mod yn landlord da?

Efallai y byddwch yn dymuno ymuno â chynllun Achredu Landlordiaid Cymru. Mae’r cynllun seiliedig-ar-sgiliau yma, sy’n cael ei redeg ledled Cymru, yn achredu landlordiaid unwaith y gallant ddangos bod ganddynt y sgiliau cywir a’r wybodaeth angenrheidiol i redeg busnes llwyddiannus, gan hefyd ddiogelu iechyd, diogelwch a lles eu tenantiaid.

Mae rhaglenni datblygu achrediad yn cael eu rhedeg ledled Cymru ac yn ymdrin â’r prif faterion y dylai landlordiaid fod yn ymwybodol ohonynt wrth reoli tenantiaethau. Gall tenantiaid ddod o hyd i’r aelodau o’r cynllun ar wefan Landlordiaid Cymru ac fe’u hanogir i chwilio am y landlordiaid hyn yn gyntaf, sydd felly’n rhoi mantais gystadleuol iddynt. Mae’n werth mynd at y wefan i landlordiaid achrededig gan ei bod yn cynnwys llawer o ffeiliau defnyddiol i’w lawrlwytho a newyddion defnyddiol i landlordiaid.

Mae’r arweiniad Guidance for Landlords and Property Related Professionals (PDF) wedi cael ei lunio gan yr Adran dros Gymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae’r wybodaeth Thinking about renting out your home? (PDF) wedi cael ei pharatoi i’ch helpu i ddeall y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â dod yn landlord preifat. Nid yw’r ddogfen wedi’i bwriadu i fod yn grynodeb cynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol ac efallai y bydd angen i chi geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

Faint o rent allaf ei godi?

Chi sydd i benderfynu faint o rent y byddwch yn ei godi ond dylai fod yn rhesymol, yn seiliedig ar faint a chyflwr yr eiddo. Cofiwch: os nad yw’n gyson â rhenti sy’n cael eu codi am eiddo tebyg yn yr ardal, byddwch yn annhebygol o ddenu tenant.

Beth yw Lwfans Tai Lleol?

Mae trefniadau Lwfans Tai Lleol yn pennu uchafswm y Budd-dal Tai y gellir ei ddyfarnu i aelwyd yn seiliedig ar faint yr eiddo (h.y. nifer yr ystafelloedd gwely) y mae ar yr aelwyd ei angen. Caiff y cyfraddau eu pennu’n lleol ac mae’r Cyfraddau Lwfans Tai Lleol (LHA) ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr i’w cael ar wefan Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Os yw swm y rhent yr ydych chi’n ei godi’n uwch na’r lwfans tai lleol y mae gan y tenant sy’n rhentu eich eiddo hawl iddo, y tenant fydd yn gyfrifol am dalu’r gwahaniaeth.

A fydd y Lwfans Tai Lleol yn cael ei dalu’n uniongyrchol i mi?

Ar y cyfan mae Lwfans Tai Lleol yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r tenant sydd wedyn yn gyfrifol am dalu’r rhent. Fodd bynnag, dan rai amgylchiadau penodol, er enghraifft os yw’r denantiaeth wedi’i sefydlu gyda’r Cyngor fel mesur atal digartrefedd, efallai y bydd y Cyngor yn gallu trefnu bod y taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’r landlord. Ewch at dudalennau gwe Gwasanaeth Budd-daliadau Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i gael mwy o wybodaeth am fudd-daliadau neu cysylltwch â’r gwasanaeth ar 01656 643396.

A allaf gadw’r bond fy hun nes bod y tenant yn symud yn ei flaen?

Ers y 6ed o Ebrill 2007 mae wedi bod yn ofynnol yn gyfreithiol bod pob blaendal (am rent hyd at £25,000 y flwyddyn) a gymerir gan landlordiaid neu asiantau gosod ar gyfer tenantiaethau byrddaliol sicr yn cael ei ddiogelu gan gynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth. Mae tri chynllun ar gael, y mae dau ohonynt yn seiliedig ar yswiriant ac yn caniatáu i’r landlord gadw’r blaendal ar yr amod ei fod yn talu premiwm i’r cynllun, ac un cynllun gwarchod sy’n dal y bond ar ran y landlord (yn rhad ac am ddim) tan ddiwedd y denantiaeth.

Cofiwch: Mae’n rhaid i chi roi manylion i’r tenant sy’n egluro sut y mae blaendal y tenant wedi cael ei ddiogelu o fewn 14 diwrnod i’w dderbyn. Gall methu â diogelu bond/blaendal arwain at achos llys a gofyniad i ad-dalu’r bond a dirwy o 3 gwaith cyfanswm y bond. Gall hefyd olygu na fyddwch yn gallu meddiannu’r eiddo ar diwedd y denantiaeth. I gael mwy o wybodaeth am ddiogelu blaendaliadau tenantiaeth ewch at y wefan Directgov. 

Beth os yw fy nhenant yn ei chael yn anodd dod i ben â’r denantiaeth?

Gellir rhoi cymorth i helpu pobl sy’n cael anawsterau gyda materion sy’n gysylltiedig â thenantiaethau. Dylid cynghori tenantiaid yn y sefyllfa hon i gysylltu â Gwasanaeth Dewisiadau Tai ac Atal Digartrefedd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr lle gellir rhoi cymorth a chyngor mewn perthynas ag ystod o faterion tai.