Cartref
Llety
Landlordiaid
Cyngor a Chymorth
Gwybodaeth
Newyddion
Cysylltwch â ni
Adborth
Chwilio am gartref yn Pen-y-bont? 

Ydych chi’n chwilio am gartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Os ydych chi’n chwilio am gartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae nifer o ddewisiadau tai y byddwch o bosib yn dymuno eu hystyried.

Mae’r dewisiadau hyn yn cynnwys tai cymdeithasol (cartrefi gan gymdeithasau tai), y sector tai rhent preifat, a thai fforddiadwy megis prynu ar y farchnad am bris gostyngol, cartrefi dechreuol a thai rhent canolradd. Mae dewisiadau ar gael i bobl hŷn hefyd megis tai gwarchodol neu dai gofal ychwanegol.

Bydd y dolenni isod yn darparu gwybodaeth ar eich cyfer i’ch helpu i benderfynu pa un yw’r dewis gorau i chi o ran tai.

Bydd y wefan hon hefyd yn cynnig manylion rhai o’r cartrefi sydd ar gael i’w rhentu yn awr a gwybodaeth am y pethau y gall fod angen i chi eu hystyried megis y gwahanol fathau o denantiaeth a’r galw tebygol am dai rhent cymdeithasol mewn ardaloedd penodol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddefnyddio’r Gyfrifiannell Amser Aros.

Tai Rhent Cymdeithasol
Tai i Bobl Hŷn
Tai Fforddiadwy
Tai Preifat i'w Rhentu